Ein Gwasanaethau
Rheoli Asedau
Creu a chyflwyno cynlluniau rheoli asedau strategol
Datblygu strategaethau prydlesu, ac i sicrhau’r gymysgedd iawn o denantiaid er mwyn cynnal cystadleurwydd
Ail-gerio prydlesi (‘lease re-gearing’), adnewyddu a rheoli prydlesi gweithredol
Adolygiadau a thrafodaethau rhent
Canfod cyfleoedd ychwanegol i sicrhau refeniw a gwerth
Rheoli a lliniaru risg o ran eiddo gwag
Olrhain a rhagweld amserlenni tenantiaeth
Gwaith monitro perfformiad ac adrodd parhaus
Strategaethau ail-leoli a gwella hirdymor
Rydym yn darparu gwasanaeth rheoli asedau rhagweithiol a strategol sy'n canolbwyntio ar wella incwm net ac ysgogi gwerth cyfalaf. Mae ein dull yn cyfuno mewnwelediadau masnachol cryf â dealltwriaeth fanwl o farchnadoedd lleol, gan ein galluogi i sicrhau safle asedau fel rhai sy’n wydn ac yn llwyddiannus yn y tymor hir.
Rydym yn gweithio'n agos gyda landlordiaid, buddsoddwyr a rhanddeiliaid i ganfod cyfleoedd i ddenu, cadw ac ail-leoli meddianwyr, gan sicrhau bod cynlluniau'n parhau i fod yn gystadleuol ac yn gynaliadwy. Drwy weithio o safbwynt lleol a chenedlaethol, rydym yn cysoni pob ased â’r galw yn y farchnad wrth ymateb i anghenion y cymunedau y mae'n eu gwasanaethu.
Testun ein sylw yw creu, a gweithredu, strategaethau clir a chyflawnadwy, sy'n cefnogi twf hirdymor, yn lleihau risg ac yn sicrhau’r gwerth gorau am arian.
Rheoli Asedau
Rydym yn darparu gwasanaeth rheoli eiddo rhagweithiol, sy'n canolbwyntio ar fanylion, gan sicrhau bod asedau'n cael eu cynnal a'u cadw'n dda a'u cyflwyno'n gyson i safon uchel. Mae ein dull o weithio’n canolbwyntio ar ddiogelu gwerth, gwella perfformiad a darparu profiad cadarnhaol i landlordiaid a meddianwyr.
Rydym yn gweithio mewn modd ymarferol a strategol, gan sicrhau presenoldeb rheolaidd ar y safle ac ymgysylltiad cryf â rhanddeiliaid, fel bod asedau'n gweithredu'n effeithlon, yn parhau i gydymffurfio, ac yn dal i fodloni disgwyliadau sy’n esblygu o safbwynt y farchnad a meddianwyr. Drwy roi cryn sylw i’r profiad y mae meddianwyr yn ei gael a sicrhau eu bod yn cael eu cadw, rydym yn helpu i greu eiddo cynaliadwy, sy'n perfformio'n dda, ynghyd â chysylltiadau hirdymor.
Mae ein dull o weithio’n cael ei ategu gan y defnydd o ddata a mewnwelediadau i sbarduno perfformiad, ochr yn ochr â mynd ati’n barhaus i adolygu costau, effeithlonrwydd gweithredol a pherfformiad cyffredinol asedau. Mae ein gwasanaethau hefyd yn cynnwys archwiliadau llawn o safbwynt gweithredol a thâl gwasanaeth, gan sicrhau tryloywder, ynghyd â rheoli costau a gwerth am arian.
Rheoli Eiddo
Gosod Eiddo Masnachol
Rydym yn gweithio'n agos gyda rhwydwaith o asiantau cenedlaethol a lleol i sicrhau meddianwyr o ansawdd uchel, sy'n darparu gwerth hirdymor. Drwy gyfuno mewnwelediad i'r farchnad â dull prydlesu strategol, rydym yn sicrhau bod asedau'n parhau i fod yn gystadleuol, eu bod yn denu'r tenantiaid cywir ac yn hybu twf incwm hirdymor.
Rheoli'r ased o ddydd i ddydd, sy’n cynnwys staffio, glanhau a sicrhau diogelwch
• Ymweliadau rheolaidd ag eiddo i sicrhau safonau uchel a chydymffurfiaeth
• Recriwtio a rheoli staff, a monitro perfformiad
• Rhaglenni cynnal a chadw ataliol ac ymatebol, gan gynnwys rheolaeth lawn o Waith Cynnal Ataliol Wedi’i Gynllunio (PPM)
• Archwiliadau blynyddol a chyfnodol o eiddo ac iechyd a diogelwch
• Rheoli a chyfarwyddo contractwyr a darparwyr gwasanaethau i sicrhau ansawdd a chydymffurfiaeth
• Gwaith caffael, ynghyd â thendro cystadleuol i ddangos gwerth am arian
• Mynediad at gontractwyr lleol dibynadwy i gyflawni gwaith atgyweirio effeithlon ac ymatebol
• Cyflawni mentrau yng nghyswllt cynaliadwyedd ac sy’n rhoi sylw i ESG
• Gwaith cysylltu a chyfathrebu â thenantiaid, ynghyd â llunio dogfennau ar eu cyfer, gan gynnwys llawlyfrau a chanllawiau
• Pecynnau cymorth i gefnogi timau ar y safle i reoli iechyd a diogelwch gweithredol o ddydd i ddydd
Rheoli Cyfleusterau
Rydym yn darparu gwasanaeth rheoli cyfleusterau cynhwysfawr, sy’n sicrhau bod asedau’n cael eu gweithredu’n rhwydd o ddydd i ddydd, wrth gynnal safonau uchel, ynghyd â chydymffurfiaeth a gwerth am arian. Mae ein dull rhagweithiol ac ymarferol o weithio yn cefnogi amgylcheddau diogel ac effeithlon, sy’n creu argraff raenus ac yn gwella’r profiad i feddianwyr ac ymwelwyr.
Rydym yn gweithio'n agos gyda landlordiaid, tenantiaid a darparwyr gwasanaethau i sicrhau bod asedau'n gwbl weithredol, eu bod yn cydymffurfio, ac yn cyd-fynd ag amcanion cynaliadwyedd hirdymor ac amcanion ESG. Trwy bresenoldeb rheolaidd ar y safle a rheolaeth gref o ran contractwyr, rydym yn sicrhau bod problemau'n cael eu canfod yn gynnar a'u datrys yn gyflym.
Rydym yn darparu gwasanaeth rheolaeth ariannol cadarn a thryloyw sy’n rhoi hyder, ynghyd ag yn sicrhau eglurder a rheolaeth i landlordiaid a buddsoddwyr dros berfformiad asedau. Mae ein dull strwythuredig a rhagweithiol yn sicrhau bod incwm yn cael ei ddiogelu, bod costau'n cael eu rheoli'n effeithiol, a bod adroddiadau ariannol yn sail i benderfyniadau gwybodus.
Rydym yn gweithio'n agos gyda chleientiaid a meddianwyr i sicrhau cydymffurfiaeth â chytundebau prydles, ynghyd â rheolaeth gref ar gredyd ac adroddoddiadau cywir ac amserol.
Ein gwasanaethau
Casglu rhent, rheoli a chysoni ôl-ddyledion
• Rheoli credyd mewn modd rhagweithiol i ddiogelu incwm a lleihau risg
• Rheoli a chysoni taliadau gwasanaeth yn unol â chytundebau prydles
• Anfonebu yng nghyswllt taliadau gwasanaeth ac yswiriant
• Adroddiadau ariannol misol a blynyddol
• Paratoi cyllidebau blynyddol a rhagolygon ariannol
• Cyfrifon taliadau gwasanaeth diwedd blwyddyn, ynghyd â’u cysoni
• Monitro gwariant a gwerth am arian
Rheolaeth Ariannol
Yn MPW, rydym yn gweld marchnata a chyfathrebu effeithiol fel rhywbeth hanfodol i hybu ymwybyddiaeth, cryfhau cysylltiadau â thenantiaid, a datgloi potensial ased yn llawn. Mae ein dull o farchnata cyrchfannau wedi'i ddylunio i sicrhau safle lleoedd fel rhai sy’n fywiog, yn ddeniadol ac yn gynhwysol, gan gynyddu nifer yr ymwelwyr, yr amser y maent yn ei dreulio mewn cyrchfannau, ynghyd â’u gwerth hirdymor.
Rydym yn gweithio ar y cyd â landlordiaid, meddianwyr a rhanddeiliaid i ddatblygu strategaethau sydd wedi'u teilwra sy'n cryfhau hunaniaeth brandiau, yn denu cynulleidfaoedd newydd, ac yn hybu teyrngarwch cwsmeriaid. Mae hyn yn cynnwys ffurfio partneriaethau a chysylltiadau cryf â rhanddeiliaid lleol, grwpiau cymunedol a sefydliadau yng nghanol trefi, i sicrhau ein bod yn gweithio mewn modd cydgysylltiedig ar sail anghenion y lleoedd hynny. Drwy gyfuno data, mewnwelediadau a chreadigrwydd, rydym yn cyflawni ymgyrchoedd sydd wedi'u targedu i wella’r profiad ym mhob cyrchfan, ynghyd â’u perfformiad yn gyffredinol.
Testun ein sylw yw creu twf cynaliadwy, cefnogi tenantiaid i lwyddo, a sicrhau bod asedau'n parhau i fod yn berthnasol mewn tirwedd manwerthu a hamdden sy'n esblygu.
Marchnata Cyrchfannau
Rydym yn mynd ati mewn modd creadigol a rhagweithiol i ganfod ffrydiau refeniw newydd, gan helpu i wneud y gorau o botensial llawn pob ased. Drwy feddwl y tu hwnt i fodelau prydlesu traddodiadol, rydym yn datgloi cyfleoedd sy'n gwella incwm wrth gefnogi safle hirdymor y cynllun.
Gall y rhain gynnwys gosod eiddo ar sail tymor byr a hyblyg, ysgogi brandiau, ynghyd â chyfleoedd i hysbysebu a chael nawdd, yn ogystal ag atebion masnachol arloesol eraill sydd wedi'u teilwra i'r ased.
Rydym yn rhoi ein sylw i fentrau sydd nid yn unig yn cynhyrchu incwm ychwanegol ond hefyd yn cynyddu’r niferoedd sy’n ymweld â chyrchfan, yn cynyddu’r amser y maent yn ei dreulio yno ac yn creu amgylchedd mwy bywiog. Mae’n bwysig nodi bod y cyfleoedd hyn wedi’u dylunio i ategu'r gymysgedd bresennol o denantiaid, ynghyd â chefnogi meddianwyr a chryfhau apêl gyffredinol y gyrchfan.
Masnacheiddio
Rydym yn darparu gwasanaeth rheoli meysydd parcio sy'n canolbwyntio ar y cwsmer ac yn cael ei weithredu o safbwynt masnachol, sy'n hybu perfformiad tenantiaid a gwerth cyffredinol asedau. Mae ein dull o weithio’n sicrhau bod darparu mannau parcio’n cael ei drin fel rhan allweddol o daith defnyddwyr, gan helpu i greu profiad cynhwysfawr, o’r adeg y maent yn cyrraedd i bryd y maent yn gadael.
Rydym yn canolbwyntio ar wneud y gorau o botensial refeniw wrth gynnal hygyrchedd ac effeithlonrwydd o safbwynt gweithredol. Trwy reolaeth effeithiol, mewnwelediadau o ran data, a monitro perfformiad yn barhaus, rydym yn sicrhau bod mannau parcio ceir yn darparu gwerth i landlordiaid ac yn cefnogi perfformiad asedau yn y tymor hir.
Rydym hefyd yn canfod cyfleoedd ychwanegol o ran refeniw, gan gynnwys atebion ar sail technoleg, ynghyd â gwasanaethau cyflenwol sy'n gwella’r profiad i ymwelwyr, a pherfformiad asedau o safbwynt masnachol.

