Making Places Work
Rheoli Eiddo ac Asedau
Sbarduno eich ased masnachol gyda chymorth arbenigol, o’r dechrau i’r diwedd.
Yn wreiddiedig ym Mangor, yn ymestyn ar draws y DU
Making Places Work
Rheoli Eiddo ac Asedau
Cefnogi eich ased masnachol gyda chymorth arbenigol, o’r dechrau i’r diwedd.
Yn wreiddiedig ym Mangor, yn ymestyn ar draws y DU
Gwneud y Gorau o Botensial eich Eiddo!
Ynglŷn â MPW - Making Places Work: Rheoli Eiddo ac Asedau
Gan adeiladu ar waith Ymgynghoriaeth MPW, sydd wedi’i hen sefydlu, o ran cefnogi partneriaid a sefydliadau ledled y DU a Chymru gyda gwaith sy’n ymwneud ag adfywio’r stryd fawr, mae MPW bellach yn cynnig gwasanaeth rheoli asedau ac eiddo cynhwysfawr. Gyda chefnogaeth wedi’i theilwra ar gyfer canolfannau siopa ar raddfa fawr, neu eiddo unigol ar y stryd fawr, ein nod yw eich cynorthwyo i wireddu potensial masnachol llawn eich eiddo.
Yn ogystal â sbarduno twf cyfalaf, rydyn ni’n dadansoddi gwariant cyfredol yn fanwl iawn, i sicrhau bod yr ased yn gweithio’n galed i chi a’ch tenantiaid.
O gynllunio strategol, i weithrediadau o ddydd i ddydd, mae ein tîm o arbenigwyr yn gweithio’n eiddgar i greu newid cadarnhaol, ac mae ganddyn nhw hanes o gryn lwyddiant o ran ymdrin â phob agwedd ar reoli eiddo, yn broffesiynol ac yn ofalus.
Ein Gwasanaethau
Adfywio Lleoedd. Diogelu Buddsoddiadau
Pam gweithio gyda MPW?
Mae Making Places Work yn gwneud i leoedd weithio o safbwynt masnachol a gweithredol, ac ar gyfer y bobl sy’n eu defnyddio! Rydyn ni’n cyfuno’r gallu i feddwl yn strategol gyda sgiliau cyflawni ymarferol, felly fyddwch chi ddim yn cael eich gadael gydag adroddiadau sy’n hel llwch. O dorri costau diangen, i ddatgloi gwerth cudd mewn asedau presennol, rydyn ni’n canolbwyntio ar wneud newidiadau ymarferol sy’n creu momentwm yn gyflym, ond gyda chanlyniadau parhaol.
Gyda MPW, gallwch ddisgwyl:
Argymhellion strategol wedi’u trosi’n ganlyniadau ymarferol, ar lawr gwlad
Dull cyfannol o reoli asedau, gweithrediadau a phobl
Arbedion cost ar unwaith, gyda chynllun cadarn ar waith ar gyfer sicrhau twf
Atebion deallus ar gyfer lleoedd nad ydyn nhw’n cael eu defnyddio’n ddigonol a chostau rhedeg cynyddol
Rheoli asedau manwerthu ac asedau defnydd cymysg mewn modd rhagweithiol
Gwella’r gymysgedd o feddiannaeth a thenantiaid gan gyfrannu at brofiad gwell i ymwelwyr
*Mae MPW yn cynnig gwasanaeth dwyieithog drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saensneg

